Mae menter a lansiwyd yn 2024 yn rhoi cyfle i fusnesau bwyd a diod ddatblygu cynlluniau lleihau carbon.
Nawr yw’r amser i weithredu. Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ein hanes lle mae ein gweithredoedd yn bwysicach nag erioed. Mae gan bob dinesydd o bob gwlad y pŵer i gyfrannu ar y cyd at adfywiad ein planed trwy’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
Mae B Corp yn cael ei ystyried yn safon aur ryngwladol ar gyfer cynaliadwyedd. Mae’n cynnwys ymagwedd gyfannol sy’n gofyn am ymgysylltiad o bob agwedd ar fusnes i gynnal ei achrediad. Mae hyn yn cynnwys sut mae’r busnes yn gweithredu, ei strwythur, ei weithwyr a’i brosesau cynhyrchu, ochr yn ochr â thryloywder ac atebolrwydd.
Mae llawer o fusnesau bwyd a diod Cymru yn arwain y ffordd o ran arferion cynaliadwy. Dyma ychydig o straeon llwyddiant gan fusnesau sydd wedi cael cymorth gennym i ddatblygu cynlluniau lleihau carbon.